63 miliwn
o fyfyrwyr wedi dysgu gyda micro:bit*
Yn annog myfyrwyr i fod yn creadigol gyda chodio ers 2016
Yn annog myfyrwyr i fod yn creadigol gyda chodio ers 2016
Mae'r micro:bit yn yn ffordd hylaw iawn o ddatblygu codio. Mae'n rhywbeth go iawn, cyffrous, ac yn rhoi hyder i fy myfyrwyr roi cynnig ar rywbeth newydd ac arbrofi.
Manon, Athrawes, y DU
Micro:bit yn y blaendir yn dangos wyneb hapus tra bo'r eicon ar gyfer nodweddion y micro:bit yn amlwg yn y cefndir
Golau
Tymheredd
Sain
Symudiad
Magneteg
Botymau
LEDs
Radio
Rhwydweithiau
Cylchredau syml
Pinnau
Animeiddiad yn dangos blociau cod ar gyfer rhaglen o galon sy'n fflachio a anfonwyd o gyfrifiadur i micro:bit. Yna mae sgrin y micro:bit yn dangos eicon mawr ac yna bach o galon, drosodd a throsodd.
i ddod â'r micro:bit yn fyw
i ddod â'r micro:bit yn fyw
Animeiddiad yn dangos blociau cod ar gyfer rhaglen cyfrif camau a anfonwyd o gyfrifiadur i micro:bit. Yna mae sgrîn y micro:bit yn dangos 0.
i'w drawsnewid i rywbeth newydd
i'w drawsnewid i rywbeth newydd
Animeiddiad o gyfrwr camau. Micro:bit gyda 0 ar y sgrin yn sownd wrth esgid rhedeg. Mae'r esgid rhedeg yn camu ddwywaith. Mae pob cam yn cynyddu'r rhif ar y micro:bit, gan ddangos 1 ac yna 2.
Cyfleoedd di-ri i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn technoleg byd go iawn
Casglu data ar gyfer mathemateg a gwyddoniaeth
Gwneud dysgu'n chwareus
Dod â diogelwch digidol yn fyw
Byddwch yn greadigol gyda goleuadau, synnau a symudiad
Ewch allan a defnyddiwch dechnoleg
Archwiliwch faterion amgylcheddol
63 miliwn
o fyfyrwyr wedi dysgu gyda micro:bit*
60+
gwledydd sy'n dysgu gyda'r micro:bit
Defnyddir y micro:bit gan filiynau o bobl ledled y byd i gael profiad ymarferol o gyfrifiadureg a thechnoleg.
Defnyddir y micro:bit gan filiynau o bobl ledled y byd i gael profiad ymarferol o gyfrifiadureg a thechnoleg.
drwy wneud cyfrifiadura yn ddifyr ac ystyrlon i godwyr newydd a phrofiadol.
Cyrsiau datblygu proffesiynol a gweminarau byw am ddim i'r athrawon sy'n magu profiad yn ogystal â'r hen lawiau.
Mae unedau gwaith, gwersi, prosiectau, heriau cynllunio ac adnoddau i'w hargraffu, oll yn gysylltiedig â'r cwricwlwm, gan gynnwys tystysgrifau a phosteri, yn rhoi popeth sydd ei angen arnoch i ddysgu ac ysbrydoli'ch myfyrwyr.
Gyda micro:bit classroom gallwch gynnal sesiynau i ddosbarthiadau cyfain, rhannu codau'n syml gyda myfyrwyr dros sawl gwers a chadw cofnod cynnydd.
Ein golygydd bloc swyddogol yw Microsoft MakeCode a'n teclyn rhaglennu testun yw'r golygydd micro:bit Python. Mae'r BBC micro:bit yn gweithio hefyd gyda Scratch, Code.org App Lab ac amryw o declynau/dyfeisiau golygu eraill.
Codio bloc ar gyfer plant 8 oed a hŷn
Codio bloc ar gyfer plant 8 oed a hŷn
Codio testun ar gyfer plant 11 oed a hŷn
Codio testun ar gyfer plant 11 oed a hŷn
Ymweld â'n sylfaen Gwybodaeth
Yn ychwanegol at y BBC micro:bits eu hunain, gall defnyddwyr fanteisio ar adnoddau gwersi, cyrsiau datblygu proffesiynol ac offer codio ac ystafell ddosbarth, oll am ddim. Mae'r rhain oll ar gael o'n Hadran Ddysgu. Efallai yr hoffech hefyd gael cipolwg ar ein tudalennau cynnyrch i weld beth sydd wedi ei gynnwys yn y blwch ar gyfer pob un o'n heitemau.
Mae'r BBC micro:bit wedi ei ddylunio ar gyfer pobl ifanc 8 oed a hŷn ac mae'n cwmpasu dysgu ym mhob cam o addysg yn yr ysgol: ysgolion cynradd/elfennol, canol, ac uwchradd.
Rydym yn darparu unedau gwaith sy'n cydweddu i'r cwricwlwm yn yr Unol Daleithiau, Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae'r adnoddau hyn, a'n hadnoddau dysgu eraill, yn cwmpasu meysydd allweddol ar feysydd llafur cyfrifiadureg ledled y byd.
Mae'r micro:bit yn gweithio gyda Microsoft, MacOS, iPadiau Apple (ac iFfonau) a dyfeisiau Android. Gweler isafswm gofynion.
Rydym fel rheol yn argymell o leiaf 1 micro:bit rhwng 2 fyfyriwr, er y gellir eu defnyddio mewn gweithgareddau dysgu gyda grwpiau bychain.
Mae'r golygydd MakeCode a'r golygydd Python ynghyd â rhai tudalennau ac adnoddau dysgu ar ein gwefan ar gael mewn sawl iaith. Gweler manylion ynghylch sut i weld cynnwys mewn ieithoedd gwahanol.
Darperir ein cyfieithiadau gyda chefnogaeth ein tîm o wirfoddolwyr gwych. Dysgwch fwy am wirfoddoli.
Rydym ni wedi darparu erthygl i egluro'n fanylach beth rydym ni'n ei olygu wrth gyfrifiadura diriaethol a pham ei fod mor greiddiol i'r hyn y mae micro:bit yn ei gynnig.
Mae'r erthygl hon yn egluro pam fod dysgu pobl ifanc i godio yn bwysig a sut y gall micro:bit helpu.
Ein nod yw sicrhau bod ein cynnyrch a'n gwasanaethau ar gael i gynulleidfa mor eang â phosib. Dysgwch fwy am sut rydym ni'n mynd ati ac yn darparu ar gyfer hygyrchedd.
We use cookies, which are small files saved on your device when you visit a website. Some are essential for the site to work properly and are always enabled. Others help us store your preferences and understand how you use the site. To choose which cookies are enabled select “Manage cookies”.
We do not use third-party ads on microbit.org.